Meithrinfa goed a gardd gymunedol, Coetiroedd Bryn Sirhywi

button-theme-sirhowy

Sefydlwyd y feithrinfa goed hon yn 2021 i gyflenwi eginblanhigion lleol i’r coetiroedd. Dechreuodd yr ardd gymunedol gyfagos yn 2022.

Photo of tree nursery at Sirhowy Hill WoodlandsYr un fath â bodau dynol, mae gan goed enynnau gwahanol. Mae'r feithrinfa hon yn galluogi coed newydd i fod o gronfa genynnau brodorol Cymreig. Mae gwirfoddolwyr yn casglu hadau ac yn cymryd toriadau o goed hynafol neu o wrychoedd a choetiroedd.

Mae angen amynedd i dyfu stoc coed! Gellir tyfu rhai rhywogaethau, gan gynnwys derw, yn hawdd tra gall hadau eraill gymryd sawl gaeaf o rewi a dadmer i sbarduno egino. Weithiau gellir twyllo hadau trwy eu cadw mewn rhewgell am sawl mis.

Mae'r eginblanhigion yn cael eu plannu mewn llinellau i dyfu'n lasbrennau ar gyfer plannu yn y coetiroedd. Mae unrhyw stoc dros ben yn cael ei werthu'n lleol neu yng Nghymru i gefnogi rhaglen Llywodraeth Cymru o blannu coed brodorol.

Photo of community orchard at Sirhowy Hill WoodlandsNid yw pob coeden yn tyfu'n driw i'r math o had, felly mae toriadau'n cael eu himpio ar wreiddgyff arbennig a fydd yn cynhyrchu coeden sy'n atgynhyrchu ei rhiant. Defnyddir impio fel arfer ar gyfer coed ffrwythau, gan ddefnyddio toriadau a blagur a ddewisir o berllannau lleol. Mae'r feithrinfa goed yn arbenigo mewn mathau o ffrwythau Cymreig a lleol.

Mae coed yn y berllan gymunedol yma yn cynnwys afalau (mathau ar gyfer coginio a bwyta), eirin, eirin damasg, eirin gwyrdd, gellyg a chnau cob.

Crewyd yr ardd gymunedol gan ddechrau gyda gwirfoddolwyr yn clirio helyg prysgwydd a brwyn. Er mwyn osgoi tarfu ar y pridd trwy gloddio, gorchuddiwyd y safle â chardbord a gafodd ei orchuddio wedyn â chompost a gwellawr pridd, a brynwyd gyda grant tlodi bwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Gosodwyd naddion pren ar hyd y llwybrau.

Photo of community garden at Sirhowy Hill WoodlandsYmhlith planhigion y flwyddyn gyntaf roedd letys, siard, pys, winwns, radis, ffa, betys, tatws, moron a phannas.

Mae'r ardd yn adnodd addysgol lle gall plant ysgol ddysgu hau, tyfu a chynaeafu. Mae gwirfoddolwyr yn darparu sesiynau coginio lle mae'r plant yn bwyta'r hyn maen nhw wedi'i dyfu ac yn gweld y cylch 'o'r planhigyn i'r plât'. Dilynwch y ddolen isod am fanylion sut i helpu gyda’r ardd.

Cyfeirnod grid: SO147093    Map

Gwefan Coetirioedd Bryn Sirhywi – manylion yr ardd gymunedol

button-tour-sirhowy previous page in tournext page in tour