Cynefinoedd pryfed, Coetiroedd Bryn Sirhywi

button-theme-sirhowy

Mae'r cae gwartheg hwn yn un o'r cynefinoedd cyfoethog yng Nghoetiroedd Bryn Sirhowy ar gyfer rhywogaethau infertebratau, gan gynnwys rhai prin ac yn arbenigol. Gweler y troednodiadau am fanylion.

Photo of Dingy Skipper butterflyAr un adeg, roedd yr ardal yn dirwedd ddiwydiannol brysur a luniwyd gan gloddio glo. Mae wedi trawsnewid yn raddol yn fosaig o goetir, glaswelltir, gwlyptir a rhostir. Mae natur wedi dychwelyd, ond efallai nad oedd rhai o'r rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid yma cyn diwydiannu.

Drwy ganiatáu adfywio naturiol wrth gynnal cynefinoedd allweddol yn ofalus, mae Coetiroedd Bryn Sirhowy wedi dod yn hafan i'w infertebratau. Edrychwch amdanynt wrth i chi chwilota'r ardal!

Photo of Giant HorntailMae'r cae gwartheg yn lle da i weld rhai ohonynt. Mae glaswelltiroedd a rhostir agored yr ardal, llawn blodau, yn cynnal poblogaethau iach o beillwyr, fel y Gwenynen Llus – gwenynen nodedig sy'n gysylltiedig â rhostir ucheldir – a'r Gwenynen Cloddio Tresgl, sy'n nythu mewn tir noeth ac yn ymweld â blodau tresgl.

Yn y gwanwyn, chwiliwch am y Gwibiwr Llwyd (llun uchaf). Mae'n löyn byw brown tebyg i wyfyn, ac mae ei lindys yn bwydo ar Droed yr Iâr sy'n tyfu ar lethrau sych, agored y safle.

Mae'r pyllau heulog bas mewn hen geudodau diwydiannol yn brysur gyda gweision y neidr a mursennod yn yr haf, gan gynnwys y Fursen Las-gynffon brin.

Photo of weevil Gymnetron beccabungaeHefyd i'w gael yn yr ardal mae'r Sboncyn y Dail Rhopalopyx adumbrate, aelod o'r teulu cicada sydd, mae’n debyg, yn brin yng Nghymru.

Yn y coetiroedd, efallai y gwelwch un o infertebratau mwyaf dramatig y safle - y Giant Horntail (llun canol). Gwelir y pryf mawr hwn, tebyg i bicwnen, yn aml ger boncyffion a bonion conwydd. Er gwaethaf ei ymddangosiad ofnadwy, mae'n ddiniwed i fodau dynol. Yr hyn sy'n edrych fel pigiad yw ovipostor a ddefnyddir gan y fenyw i ddodwy wyau'n ddwfn i mewn i bren marw neu bren sy'n pydru, lle mae'r larfa wedyn yn datblygu.

Hefyd yn byw yn y coetiroedd mae'r gwiddonyn Gymnetron beccabungae (llun gwaelod) sy’n brin yn genedlaethol, y sboncyn planhigion Euconomelus Lepidus a'r Wenynen Dorri Dail Megachile ligniseca.

Mae gan Fenter Bioamrywiaeth Sbwriel Glofaol ragor o wybodaeth am fywyd gwyllt ar hen safleoedd mwyngloddio yn Ne Cymru – dilynwch y ddolen isod.

Cyfeirnod grid: SO149094

Gwefan Menter Bioamrywiaeth Sbwriel Glofaol

button-tour-sirhowy previous page in tournext page in tour

Troednodiadau: Rhywogaethau pwysig Coetiroedd Bryn Sirhowy

Mae'r rhywogaethau canlynol a geir yma o "bwysigrwydd cadwraeth" oherwydd eu statws cadwraeth: Lleol, Prin neu Anyfynych, neu bresenoldeb ar Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Gwiddonyn Ceutorhynchus atomus - Prin yn Genedlaethol
Gwiddonyn Ceutorhynchus cochleariae - Lleol
Gwiddonyn Glocianus punctiger - Prin yn Genedlaethol
Gwiddonyn Caenorhinus mannerheimii - Lleol
Gwiddonyn Gymnetron beccabungae - Prin yn Genedlaethol
Gwiddonyn Holotrichapion pisi - Lleol (yng Nghymru)
Pryf planhigyn Hoplomachus thunbergii - Lleol
Pry copyn plethedig Araneus sturmi - Lleol
Pry copyn môr-leidr Piratula latifrons - Lleol
Pry adenydd llun Rivellia syngenesiae - Lleol
Pry adenydd llun Herina lugubris - Lleol
Pry adenydd llun Euphranta toxoneura - Prin yn Genedlaethol
Gwenynen Llus - Lleol
Gwenynen Cloddio Tresgl Andrena tarsata - Prin yn Genedlaethol
Top-horned Hunchback, Acrocera orbiculus - Prin yn Genedlaethol
Mursen Las Fach - Bron dan Fygythiad
Sboncwr y Dail Limotettix striola - Lleol
Pry parasit Cyrtophloeba ruricola - ychydig o gofnodion yng Nghymru
Gweirlöyn Bach y Waun - Bregus, Adran 7
Glöyn byw'r Gwibiwr Llwyd - Adran 7