Safle Glofa Rhif 4 Tredegar, Coetiroedd Bryn Sirhywi
Suddwyd siafft y pwll glo hwn yn 1830 gan Gwmni Haearn Tredegar, a ddefnyddiai lo i wneud haearn yn ei waith haearn yn y dref. Yn y 1870au, roedd y pwll hefyd yn cael ei adnabod fel Pwll Briggs. Roedd Pwll Goldie yn gronfa ddŵr ar gyfer y pwll yn wreiddiol.
Roedd y pwll yn segur pan gyhoeddodd yr Ordnance Survey fap o'r ardal yn 1902. Roedd dau bwll cyfagos arall yn dal yn weithgar: roedd Rhif 3 ychydig i'r gogledd-ddwyrain o Rhif 4, a Rhif 9 bellter tebyg i'r de.
Bu pobl yn byw mewn pedwar bwthyn gweithwyr ar safle Rhif 4 am ddegawdau lawer ar ôl i'r pwll gau. Fe'u dymchwelwyd yn 2000.
Roedd mwyngloddio yn beryglus, a lladdwyd neu anafwyd llawer o ddynion ym Mhwll Rhif 4. Yn 1861 bu farw Thomas Morgan, glöwr, o anafiadau ar ôl cael ei losgi'n ddrwg mewn ffrwydrad nwy o dan y ddaear. Yn y cwest, dywedodd cydweithiwr a oedd â'r swydd o "ofalu am nwy" yn y pwll fod Thomas wedi anwybyddu rhybuddion ac wedi mynd, gyda'i fab a channwyll wedi'i goleuo, i ardal lle roedd cwymp mawr wedi rhyddhau nwy. Cafodd y mab ei "losgi'n ddrwg iawn" hefyd.
Anafodd ffrwydrad yn y pwll yn 1871 fachgen a thri dyn, gan gynnwys David Phillips a fu farw o'i anafiadau. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno lladdodd cwymp yn y pwll y glöwr Evan Williams, a adawodd wraig a phlant. Lladdodd cwymp arall ym 1871 ferlen pwll o'r enw King William.
Yn 1854 torrodd dŵr o lofa gwag drwodd a rhuthro i lawr i waelod y pwll, ond ni laddwyd neb. Achubodd un gweithiwr â choes bren ei hun trwy lynu wrth bren gydag un llaw, rhoi ei ben mewn ceudod to bach a defnyddio'r llaw arall i gadw'r dŵr o'i geg a'i drwyn!
Roedd David Evans, 50, o Georgetown wedi bod yn sâl ers peth amser pan neidiodd i lawr siafft Glofa Rhif 4 i ladd ei hun yn 1884. Fel y digwyddodd, roedd cawell y pwll yn esgyn a bron wedi cyrraedd y brig. Glaniodd David arno ac ni chafodd ei anafu'n ddifrifol.
Weithiau roedd tlodi yn gyrru menywod lleol i ddwyn glo. Yn 1869 cafodd Margaret Sullivan ei dal cyn y wawr yn dwyn o dramiau glofa ger Glofa Rhif 4. Cafodd y dewis o dalu dirwy o 5s a chostau neu dreulio wythnos yng ngharchar Brynbuga. Fe’i disgrifiwyd fel lleidr glo drwg-enwog.
Yn 1875 cafodd pump o fenywod ddirwy o 5s yr un a bu’n rhaid iddynt dalu costau am ddwyn glo o’r pentwr ger Glofa Rhif 4.
Cyfeirnod grid: SO148093 Map
![]() |