Safle rheilffyrdd mwynau, Coetiroedd Bryn Sirhywi
Mae pen gogleddol Thomas Ellis Way yn dilyn llwybr rheilffordd mwynau. Enwir y ffordd ar ôl peiriannydd a adeiladodd locomotifau stêm cynnar yn Nhredegar, fel y gallwch ddarllen ar ein tudalen am waith haearn Tredegar.
Ar un adeg roedd ardal Coetiroedd Bryn Sirhywi yn cael ei chroesi gan wahanol dramffyrdd, lle'r oedd ceffylau'n cludo glo a haearn o byllau. Aeth un llwybr i Lynebwy trwy Dwnnel Harford. Cafodd y prif lwybrau eu huwchraddio i reilffyrdd mwynau, lle byddai locomotifau yn tynnu wagenni.
Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd rheilffyrdd mwynau yn rhedeg i'r gogledd o Bwll Rhif 9 a Phwll Rhif 4. Os ydych chi newydd sganio'r cod QR, rydych chi'n agos at ble roedd un rheilffordd yn disgyn i waith haearn Sirhywi.
Roedd rheilffordd hirach yn gwahanu er mwyn aros ar lefel uwch, gan barhau heibio i Sirhywi. Yn raddol, roedd yn troi 180 gradd ym mlaenau’r cwm, gan basio i'r de o Rassau i gyrraedd gwaith dur Glynebwy. Gallai trenau glo newid cyfeiriad uwchben safle gwaith haearn Sirhywi er mwyn cyrraedd y ffyrnau golosg i'r de (ar bwys Ffordd y Siartwyr heddiw). Cafodd glo ei droi'n lo golosg ar gyfer gwneud dur.
Roedd y rheilffyrdd mwynau yn dal i fodoli ddiwedd y 1930au ond roeddent wedi'u codi erbyn 1948 pan dynnodd yr RAF y llun o'r awyr, a ddangosir yma trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru. Mae simnai Pwll Rhif 9 yn amlwg yn y gornel dde uchaf. O'r fan honno gallwch olrhain llwybr y rheilffordd i Lynebwy tua'r chwith.
Roedd y rheilffordd a ddisgynnai i safle gwaith haearn Sirhywi (ar waelod y llun) yn mynd rhwng y ddau grŵp o dai teras (Stryd Harford i'r chwith). Y tu hwnt i'r prif grŵp o dai teras roedd rheilffordd gysylltu siâp U yn disgyn at brif reilffordd Dyffryn Sirhywi i Risga, i'w gweld ar y dde. Ger y gornel dde isaf mae gorsaf reilffordd Sirhywi a'i iard ar gyfer nwyddau lleol.
Cyfeirnod grid: SO146095 Map
![]() |