Coetiroedd Bryn Sirhywi, Tredegar

button-theme-sirhowy

Mae Coetiroedd Bryn Sirhywi yn gorchuddio hen domen rwbel a sbwriel a adferwyd. Defnyddiwyd yr ardal fel storfa ar gyfer gwastraff o'r diwydiant haearn a dur ac o gartrefi, nes i'r tomenni sbwriel a siâl gael eu cau yn 1973-74.

Aerial photo of the Sirhowy Hill Woodlands area in 1985Cyn y chwyldro diwydiannol, roedd yr ardal wedi'i gorchuddio â choetiroedd hynafol, rhedyn a blodau, ynghyd â ffermydd bach a pherllannau. Roedd ffermwyr a bugeiliaid yn byw yn Nhredegar.

Trawsnewidiwyd Tredegar gan ddiwydiannu. Gwnaed haearn gan ddefnyddio mwyn haearn a glo a gloddiwyd yn lleol. Erbyn dechrau'r 19eg ganrif, De Cymru oedd cynhyrchydd haearn mwyaf y byd, a chafodd traean o lo'r byd ei gloddio yn y rhanbarth dros ganrif yn ddiweddarach.

Erbyn 1851 Cymru oedd cymdeithas ddiwydiannol gyntaf y byd – lle'r oedd mwy o bobl yn gweithio mewn diwydiant nag amaethyddiaeth. Daeth tirweddau Cymoedd De Cymru, gan gynnwys y rhai o amgylch Tredegar, yn anadnabyddadwy wrth i goetiroedd hynafol gael eu dinistrio gan gloddio brig a dympio sorod a gwastraff arall.

Wrth i ddiwydiannu gilio, dychwelodd natur i'r tirweddau creithiog, wedi'i gynorthwyo mewn sawl man gan raglen adfer tir fawr a barhaodd dros ddegawdau. Mae'r llun o'r awyr o 1985, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos yr ardal ar ôl tirlunio. Cymharwch ef â'r llun o'r awyr o 1947 ar ein tudalen am fywyd gwyllt ar safleoedd gwastraff i weld effaith y prosiect adfer.

Mae Pwll Goldie yn agos at waelod y llun o 1985. Yn agos at y pwll mae safle Glofa Rhif 4, lle'r oedd ychydig o fythynnod yn dal i fod yn anheddau yn 1985.

Plannwyd y rhan fwyaf o Goetiroedd Bryn Sirhywi mewn cyfnodau rhwng 1985 a 1990 – gweler y troednodiadau am fanylion y prif rywogaethau. Plannwyd mwy o goed llydanddail mewn ardaloedd dethol yn ddiweddarach.

Mae'r coetiroedd a'r ardaloedd cyfagos sy'n ffurfio Coetiroedd Bryn Sirhywi yn gorchuddio tua 85 hectar rhwng Tredegar a Glynebwy. Dynodwyd y coetiroedd yn Warchodfa Natur Leol yn 2020. Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent sy'n berchen ar y tir yn bennaf. Rheolir yr ardal fel coetir cymunedol gan Gwmni Buddiant Cymunedol Coetiroedd Bryn Sirhywi, a ymgorfforwyd yn 2019.

Cyfeirnod grid: SO147097    Map

Gwefan Coetirioedd Bryn Sirhywi

button-tour-sirhowy previous page in tournext page in tour

Troednodiadau: Prif rywogaethau coed yn y coetir

Plannu cychwynnol

Gwernen gyffredin (Alnus glutinosa)
Gwernen lwyd (Alnus incana)
Gwernen Eidalaidd (Alnus cordata)
Sbriwsen Norwy (Picea abies)
Amrywiaeth o binwydd (Pinus spp)
Amrywiaeth o helyg (Salix spp)
Poplys amrywiol (Populus spp)

Plannu yn ddiweddarach

Derwen mes digoes (Quercus petraea)
Ffawydden (Fagus sylvatica)
Bedwen (Betula spp)
Y ddraenen wen gyffredin (Crataegus monogyna)
Cerddinen (Sorbus aucuparia)