Bywyd gwyllt y Triongl, Coetiroedd Bryn Sirhowy
Mae'r llannerch drionglog hon yn safle da i weld rhai o'r glaswelltau a'r blodau sydd bellach yn ffynnu ar ochr y bryn ôl-ddiwydiannol. Byddwch hefyd yn clywed galwadau rhai o'r adar toreithiog.
Mae ecoleg Coetiroedd Bryn Sirhowy yn parhau i esblygu. Erbyn 2025, roedd mwy na 50 rhywogaeth o goed a llwyni yma, 42 rhywogaeth o laswellt, hesg neu frwyn a 10 rhywogaeth o redyn a marchgynffon. Mae yna hefyd 147 rhywogaeth o blanhigion blodeuol eraill a gyflwynwyd, fel Briallu Mair a Chlafr y Maes. Mae rhai eraill wedi dianc o erddi!
Mae'r Triongl wedi'i ffensio i ganiatáu i blanhigion dyfu heb aflonyddwch gan bobl a chŵn. Mae coed derw, draenen wen, afal a masarnwydden wedi'u plannu o amgylch y perimedr.
Mae'r llun yn dangos iâ gwallt yn y coetiroedd. Mae hwn yn ffenomen brin sy'n ymddangos ar bren sy'n pydru mewn rhai amodau. Rhaid i'r ffwng Exidiopsis effuse fod yn bresennol yn y pren. Pan fydd y tymheredd ychydig islaw 0°C, mae dŵr yn y coed yn rhewi ac yn cael ei wthio allan ar ffurf llinynnau tenau iawn o rew.
Mae arolygon yng Nghoetiroedd Bryn Sirhowy wedi cofnodi gweld neu arwyddion o wahanol famaliaid gan gynnwys cwningen, chwistlen cyffredin, llygoden y maes, carw, mochyn daear, llygoden y banc, llygoden y coed, gwiwerod llwyd a llwynog. Mae'n debygol bod carlymod a draenogod yn byw yn yr ardal hefyd.
Mae gan Goetiroedd Bryn Sirhowy amrywiaeth eang o adar yn nythu ac yn ymweld, gan gynnwys cnocellod y coed, barcutiaid coch a chrehyrod. Gweler y troednodiadau am fanylion.
Gosodwyd blychau nythu tylluanod yn y Triongl yn 2025.
Cyfeirnod grid: SO150098 Map
![]() |
Troednodiadau: Adar a gofnodwyd yng Nghoetiroedd Bryn Sirhowy
Cwtiar
Crëyr Llwyd
Bwncath
Barcud Coch
Titw Mawr
Dringwr Bach
Dryw
Gylfingroes
Ji-binc
Nico
Llwyd y Gwrych
Telor y Helyg
Titw Cynffon Hir
Telor Penddu
Siff-saff
Aderyn Du
Robin Goch
Bronfraith
Dryw Eurben
Telor y Cnau
Brân Dyddyn
Sgrech y Coed
Pila Gwyrdd
Cnocell Werdd
Cnocell Fraith Fwyaf