Eglwys Crist, Glynebwy

Mae’r eglwys hon wedi bod yn cael ei hadnabod ers Oes Fictoria fel “cadeirlan y bryniau”. Mae’r ffotograff o’r awyr sy’n dyddio o 1930, a ddarparwyd trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos yr eglwys yn sefyll allan ymhlith y tai teras. Daw’r ffotograff o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Aerial photo of Ebbw Vale in 1930
Llun o Eglwys Crist a'r cyffiniau o'r awyr ym 1930,
trwy garedigrwydd y CBHC a'i gwefan Coflein

Agorwyd yr eglwys ym 1861. Darparwyd y tir a’r rhan fwyaf o’r arian ar gyfer ei hadeiladu gan Abraham Darby ac aelodau eraill o Gwmni Haearn Glynebwy. Y gobaith yn wreiddiol oedd adeiladu’r meindwr a’r to o haearn, ond fe anghofiwyd am y syniad.

Erbyn hynny, roedd Glynebwy eisoes wedi dod yn dref fawr ond roedd y mannau agosaf ar gyfer addoliad Anglicanaidd yn Nhredegar a’r Eglwys Newydd ar y Cefn. Yn y gobaith o leihau meddwdod, cafodd Eglwys Crist ei lleoli’n strategol mewn ardal a oedd â thros 20 o dafarndai!

Yn anarferol, ni chysegrwyd yr eglwys pan ddechreuodd gwasanaethau ond yn hytrach saith mlynedd yn ddiweddarach, ym mis Awst 1869. Dyna pryd y rhoddodd y cwmni’r adeilad i Eglwys Loegr. Mae’r muriau allanol wedi’u gwneud o dywodfaen a gloddiwyd yn Rhisga. Y tu mewn, mae’r colofnau crwn ar hyd corff yr eglwys wedi’u gwneud o galchfaen o Drefil. Cafodd y cerrig eu turnio ac, er mwyn creu effaith addurnol, eu llosgi mewn pyg cyn cael eu caboli.

Ar noson wyntog yn 2003, dechreuodd tân yn meindwr yr eglwys. Treuliodd diffoddwyr tân oriau lawer yn diffodd y fflamau. Bu’n rhaid i fwy na 30 o aelwydydd adael cartrefi lleol rhag ofn i’r meindwr ddymchwel.

Yn 2004, dywedwyd wrth y ficer na fyddai’n wynebu unrhyw gamau gorfodi yn dilyn cwyn – a gyrhaeddodd benawdau’r newyddion rhyngwladol - am "niwsans sŵn" clychau’r eglwys pan oedd y cloc yn taro bob awr. Roedd y clychau wedi bod yn dawel am saith mlynedd ond fe ddechreuon nhw seinio eto ar ôl gwaith gwerth £600,000 i adfer y cloc. Gosodwyd y cloc i goffau Hilda Mills, merch i gadeirydd cwmni dur lleol, Frederick Mills. Bu farw ym 1903, yn wyth oed.

Fe wnaeth wyth cloch yr eglwys ddisodli rhes o glychau cynharach ym 1937, i ddathlu gorffen ailadeiladu gweithfeydd dur Glynebwy am gost o £6m.

Yn ystod ymweliad â’r eglwys yn 2012, cyfarfu’r Frenhines Elizabeth II ag aelod hynaf y gynulleidfa, Maud Baskerville, a oedd yn 101 oed. Roedd Maud wedi cael ei bedyddio ac wedi priodi yn yr eglwys. Bu ei gŵr Fred yn glochydd yma.

Cod post: NP23 6UG    Map

Gwefan Eglwys Crist

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan y CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk

button-tour-ebbw-vale-town-trail previous page in tournext page in tour