Safle gweithfeydd dur Glynebwy

BG-LogoBG-words

Fe wnaeth cau gweithfeydd dur Glynebwy yn 2002 danio menter adfywio fawr, a ddaeth ag adeiladau a defnyddiau newydd i’r safle.

Daeth Blaenau’r Cymoedd yn un o ranbarthau cynhyrchu haearn mwyaf y byd yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, diolch i ddyddodion mwyn haearn a glo helaeth. Fe wnaeth y dirwasgiad economaidd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf daro’r rhanbarth yn galed, ac fe gaeodd gweithfeydd dur Glynebwy ym 1929.

Aerial photo of Ebbw Vale steelworks in 1948Fe ail-agorodd ym 1938, dan berchnogaeth newydd a chan frolio’r felin stribed rholio dur gyntaf y tu allan i’r Unol Daleithiau, fel y gallwch ddarllen ar ein tudalen am y stac rholio a arddangosir ym mhen gogleddol safle’r gweithfeydd dur. Mae’r ffotograff o’r awyr sy’n dyddio o 1948, a ddarparwyd trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos sut y cafodd llawr y dyffryn ei feddiannu gan y gweithfeydd a rheilffyrdd a ffyrdd cysylltiedig.

Trosglwyddodd y gweithfeydd i berchnogaeth y Llywodraeth ym 1950. Roedd mwyn haearn a fewnforiwyd yn cael ei gludo i fyny’r dyffryn ar drenau trymion nes i Dur Prydain ad-drefnu ei weithfeydd yn Ne Cymru ar ganol y 1970au. Fe barhaodd Port Talbot a Llanwern, yn agos at borthladdoedd, i gynhyrchu dur tra bo Glynebwy'n arbenigo mewn rholio dur a’i gaenu.

Roedd y gweithfeydd yn ôl mewn perchnogaeth breifat pan gyhoeddwyd eu bod yn cael eu cau, ynghyd â cholli 780 o swyddi, yn 2001. Roedd y dasg o glirio’r safle 21 hectar yn cynnwys dymchwel adeiladau, cael gwared ar loriau wedi’u gwneud o goncrit cyfnerth a sefydlogi mynedfeydd i hen lofeydd. Roedd angen glanhau’r tir yn helaeth i waredu llygryddion.

Lluniwyd uwchgynllun i gydlynu’r gwaith ailddatblygu. Roedd cyfleusterau newydd yn cynnwys ysbyty, coleg trydyddol, canolfan hamdden a chartref newydd Archifau Gwent. Agorodd rheilffordd newydd yn 2015 i gysylltu gorsaf Tref Glynebwy â’r rheilffordd i Gaerdydd a Chasnewydd.

Mae’r swyddfeydd cyffredinol gynt bellach yn gartref i amgueddfa a gaiff ei rhedeg gan wirfoddolwyr sy’n llawn arddangosion a gwybodaeth am y diwydiannau haearn a dur lleol.

Gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cod post: NP23 6GL    Map

Gwefan Amgueddfa Gwaith Dur Glynebwy

button-tour-ebbw-vale-town-trail previous page in tournext page in tour