Sefydliad Glynebwy
Codwyd yr adeilad hwn yn y 1850au ar gyfer Sefydliad Llenyddol a Gwyddonol y dref. Mae bellach yn lleoliad ar gyfer addysg, creadigrwydd a datblygiad mentrau cymdeithasol.
Dechreuodd y sefydliad mewn capel tuag at ddiwedd y 1840au ond buan iawn yr oedd angen adeilad mwy arno, felly rhoddodd Thomas Brown, rheolwr-bartner Cwmni Haearn Glynebwy, dir ac arian ar gyfer adeilad newydd. Ym mis Ionawr 1854 adroddwyd fod “adeilad cwbl gymwys” yn cael ei godi a fyddai’n galluogi’r sefydliad i gychwyn “dosbarthiadau ar gyfer cydwella”.
Roedd yr adeilad newydd yn cynnwys ystafell ddarllen, llyfrgell, darlithfa ac amgueddfa. Cafodd portread hyd llawn yr arlunydd John Knight o Thomas Brown ei arddangos yn yr Academi Frenhinol yn Llundain ym 1861. Fe estynnwyd yr adeilad mewn degawdau diweddarach, gan gynnwys darparu labordy yn y 1880au.
Roedd testunau cynnar ar gyfer darlithoedd yma ym 1855 yn cynnwys rhyfel y Crimea, fforio’r Arctig a bywyd Benjamin Franklin. Roedd y ddarlithfa “dan ei sang” ym mis Medi 1855 ar gyfer sgwrs gan Clara Balfour, awdures doreithiog a ysgrifennodd storïau i oedolion a phlant ac ymgyrchydd dros ddirwest ac addysg i fenywod.
Roedd Seryddiaeth yn bwnc gwyddonol poblogaidd yma. Roedd cyngherddau a “darlleniadau am geiniog” yn aml yn llenwi’r lle.
Ym 1855 fe symudwyd swyddfa bost y dref o Briery Hill i adeilad y sefydliad, lle penodwyd y llyfrgellydd, John Williams, yn is-bostfeistr. Bu ynadon yn ymdrin â drwgweithredwyr yma cyn agor llys pwrpasol yn Stryd Bethcar ym 1899.
Roedd y sefydliad weithiau’n llogi trenau er mwyn i grwpiau mawr o aelodau ymweld â lleoedd hanesyddol. Ym mis Awst 1866 fel rhan o “ddiwrnod allan blynyddol” y sefydliad fe wnaeth oddeutu 500 o bobl gerdded a reidio i ben Domen Fawr ar gyfer picnic, gemau, athletau a dawnsio.
Lleihaodd maint yr aelodaeth ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn y pen draw fe drosglwyddwyd yr adeilad i’r awdurdod lleol. Fe’i defnyddiwyd ar gyfer addysg oedolion ac at ddibenion eraill. Yn 2009 fe adnewyddwyd yr adeilad ar gyfer defnyddiau cymunedol newydd – dilynwch y ddolen isod i gael y manylion.
Gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cod post: NP23 6BE Map
Gwefan Sefydliad Glynebwy – manylion digwyddiadau a chyfleusterau
![]() |