Pen-y-pass
Pen-y-pass, 359 metr uwchben lefel y môr, yw'r man cychwyn uchaf ar y rhwydwaith llwybrau sy’n dringo i gopa'r Wyddfa (1,085 metr). Mae'r enw'n dynodi pen Bwlch Llanberis.
Roedd ffordd dros y bwlch, 1.8 metr o led ac yn cynnwys argloddiau bach a waliau cynnal, yn cael ei defnyddio erbyn y 18fed ganrif. Mae'r llwybr troed i'r de-ddwyrain o Ben-y-pass yn dilyn y llwybr hwn i Ben-y-Gwryd.
Mae Bwlch Llanberis wedi denu ymwelwyr ers canrifoedd, gan gynnwys ei greigiau rhewlifol enfawr. Ymwelodd yr hanesydd Edward Llwyd yn 1682 a chafodd ei synnu pan wrthododd ei dywysydd barhau heibio i ddwy garnedd ym Mhen-y-pass heb ddweud gweddi naw gwaith yn gyntaf, mor gyflym â phosibl, wrth garlamu o amgylch y carneddau!
Gwellwyd a symudwyd y ffordd ar gyfer cerbydau yn y 19eg ganrif. Roedd angen gorffwys ar geffylau ar ôl y dringfa hir o bob cyfeiriad. Gorphwysfa oedd enw’r dafarn ym Mhen-y-pass. O ganol y 19eg ganrif roedd yn fan cyfarfod poblogaidd i ddringwyr a cherddwyr bryniau, a mynegodd rhai ohonynt dristwch pan brynwyd y gwesty ym 1967 er mwyn agor hostel ieuenctid yno.
Cludwyd mwyn copr o ardal Llyn Llydaw ar hyd Llwybr y Mwynwyr, sy’n croesi Llyn Llydaw. Er mwyn gwella mynediad i weithfeydd mwyngloddio i'r gogledd-orllewin o'r llyn, lleihawyd dyfnder y llyn sawl metr yn y 1850au ac adeiladwyd arglawdd ar draws rhan gulaf y llyn.
Yn 1861 clywodd yr hynafiaethydd G Griffith o Abermaw fod gweddillion cwch cynhanesyddol wedi'u darganfod yn llaid Llyn Llydaw. Brysiodd i'r fan a chanfod mwynwyr yn torri darnau i ffwrdd ar gyfer coed tân! Talodd y dynion “yn hael" i gario'r cwch – wedi'i gerfio o un darn o dderw – i Feddgelert. Yn gynharach roedd wedi dod o hyd i sorod (slag) o doddi copr ynghyd â phennau saethau fflint cynhanesyddol ger Llyn Llydaw.
Y prif lwybr arall o Ben-y-pass tuag at Yr Wyddfa yw Llwybr Pen-y-Gwryd. Arweiniodd twf moduro ar ôl yr Ail Ryfel Byd at ehangu’r maes parcio, fel y dangosir yn y llun o’r 1970au gan Walter Harris, trwy garedigrwydd Gwasanaeth Archifau Conwy. Er mwyn lleddfu’r pwysau ar y parcio cyfyngedig, datblygwyd gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa. Mae’r llun o 2006 yn dangos ymwelwyr yn cyrraedd o Nant Peris ar fws Sherpa S1, cerbyd Leyland Atlantean o 1980 yn eiddo i gwmni KMP o Lanberis.
Cod post: LL55 4NY Map
Amseroedd bysiau i Ben-y-pass – gwefan Sherpa’r Wyddfa
Gwefan Gwasanaeth Archifau Conwy