Gwesty Pen-y-Gwryd, Nant Gwynant

Adeiladwyd yn 1810 fel ffermdy. Erbyn canol y ganrif fe’i wnaed yn dafarn a gwesty gyda’r chwyddiad ymwelwyr i Eryri.

Photo of Pen-y-Gwryd Hotel in 1858Fe’i lleolir ar y cyffordd o Lanberis dros y bwlch a’r ffordd o Feddgelert i Fetws-y-coed. Roedd y ffyrdd yn ddringfa anodd i feirch y coetys mawr, felly roedd oedi ym Mhen-y-Gwryd yn hanfodol ac yn bleser. Mae ffordd gynharach o Ben-y-Gwryd i Ben-y-pass bellach yn lwybr troed.

Mae lleoliad Pen-y-Gwryd ger yr Wyddfa a’r Glyderau wedi ei wneud yn boblogaidd iawn fel canolfan i fynyddrwydd a dringwyr. Ar gychwyn y 1950au fe fu’n gyrchfan i’r rhai a fu’n ymarfer ac a lwyddodd cyrraedd brig Eferest.

Ceir casgliad o dacla’r fenter yn y gwesty. Ar nenfwd y bar ceir lofnodion mynyddwyr nodedig fel Edmund Hillary a Chris Bonnington. Yma bu’r criw yn ymarfer gan gynnwys Tenzing a Hillary.

Llanberis Pen-y-Gwryd Hotel in 1892Ymhellach, roedd y lleoliad yma’n bwysig yn strategol yn y ganrif gyntaf ar ôl Crist (AC). Crëwyd gwersyllfa Rhufeinig yma i orffwys milwyr. Mae Pen-y-Gwryd ar gyffordd y tu allan yn rhan o’r gwersyllfa hwn.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe’i defnyddiwyd fel ysgol gan y Lake House Preparatory School. Roedd y disgyblion wedi ymgilio o Bexhill-on-Sea yn Sussex dan ofalaeth y prifathro Alan Hugh Williams.

Yn y cyffordd lle mae Bwlch Llanberis yn cyfarfod a’r ffordd o Nant Gwynant ac yn agos i Westy Pen-y-Gwryd roedd gan y Magnelau Brenhinol (Royal Artillery) bedwar o amddiffynfeydd cryf. Credid y gallai’r Almaen oresgyn Prydain drwy lanio ar draethau Cymru a byddai Pen-y-Gwryd wedi bod yn fan pwysig i’w hatal.

Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa’r Ffrynt Gartref, Llandudno. Cyfieithiad i’r Gymraeg gan Gwyndaf Hughes

Cod post: LL55 4NT    Map

Gwefan Gwesty Pen-y-Gwryd