Eglwys y Bedyddwyr Ebenezer, Abertyleri

BG-LogoBG-words

Agorwyd yr eglwys hon yn y 1870au, pan oedd gan achos y Bedyddwyr eisoes hanes hir yn yr ardal. Agorodd capel cyntaf y Bedyddwyr Cymraeg yn Abertyleri ym 1715.

Cafodd eglwys Saesneg newydd y Bedyddwyr ei dylunio gan Aaron Davies o Rymni ac fe gostiodd oddeutu £1,000. Fe ychwanegwyd neuadd amlbwrpas ym 1905, wrth i ddiwygiad Cristnogol ysgubo trwy Gymru ac i 400 i 500 arall ymuno ag achos y Bedyddwyr yn Abertyleri. Erbyn hynny roedd dros 950 o “ysgolheigion” yn mynychu’r Ysgol Sul yn Ebenezer!

Photo of Ebenezer Baptist church c.1900Roedd y neuadd yn cynnwys palisau symudadwy arloesol i ffurfio pedair ystafell ddosbarth, pob un ohonynt â digon o le eistedd ar gyfer oddeutu 150 o blant. Roedd 17 o ystafelloedd neu adrannau ychwanegol ar gyfer hyd at 20 o blant yr un. Credir bod y ffotograff o’r capel, a ddarparwyd trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn dyddio o oddeutu 1900.

Gosodwyd organ newydd ym 1922 fel cofeb i’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd Beatrice Dykes (1894-1927) yn aelod selog o gynulleidfa Ebenezer. Fe briododd â’r glöwr Ron Green ym 1916 ac roedd yn un o ymgyrchwyr cynnar y Blaid Lafur. Roedd hi’n cefnogi ymdrechion i wella gofal iechyd ar gyfer gweithwyr ac roedd hi’n un o grŵp o fenywod a oedd yn gwneud ac yn golchi dillad gwely ar gyfer ysbytai.

Fe wnaeth erthyglau Beatrice Green am dynged pobl yn Abertyleri yn ystod streic gyffredinol 1926 dynnu sylw ehangach at y sefyllfa. Bu hi’n rhan o roi cymorth i deuluoedd yn y streic, gan gynnwys trefnu lleoliadau dros dro i blant gyda theuluoedd maeth i leihau’r straen ariannol ar rieni. Bu farw’n sydyn ym 1927.

Bu Flora Drummond, un o gyn-arweinwyr mudiad yr etholfreintwragedd, yn annerch cynulleidfaoedd benywaidd yn Narlithfa Ebenezer nifer o weithiau yn ystod y 1920au. Roedd ei thestunau’n cynnwys “Ailymgorfforiad” a “Grym a Chyfrifoldeb”.

Mae’r eglwys yn dal i fod yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau lleol – dilynwch y ddolen isod i gael y manylion.

Gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cod post: NP13 1ED Map

Gwefan Eglwys y Bedyddwyr Ebenezer (Facebook)

Mwy am hanes Ebenezer ar wefan Graham Bennett

button-tour-abertillery-town-trail previous page in tournext page in tour