Sefydliad gweithwyr Abertyleri
Fe wnaeth yr adeilad hwn o’r 1950au ddisodli Sefydliad Gweithwyr Tyleri Powell, a agorodd ym mis Ebrill 1898 am gost o oddeutu £3,000. Perchennog y lofa, Thomas Powell a’i gwmni, ddarparodd y rhan fwyaf o’r cyllid ar gyfer y sefydliad newydd. Cyfrannodd gweithwyr ac eraill oddeutu £700. Bu farw Thomas yn fuan cyn i’r gwaith adeiladu orffen. Roedd ei gwmni ef hefyd yn berchen ar ffatri brics, a ddarparodd frics llwydfelyn ar gyfer adeilad y sefydliad.
Deuai pobl i’r sefydliad i gymdeithasu, darllen, ymolchi a chymryd rhan mewn chwaraeon. Er gwaethaf ei deitl, nid oedd wedi’i neilltuo ar gyfer gweithwyr yn unig. Roedd “baddonau blaen esgid” i fenywod yn ogystal â dynion, ystafell ddarllen a llyfrgell fenthyca, ystafell ysmygu, ystafell biliards ac ystafelloedd pwyllgora, yr oedd un ohonynt yn dal hyd at 200 o bobl.
Darparodd cwmni Powell gampfa ym 1902, mewn adeilad a allai gynnal cyngherddau hefyd. Fe ychwanegwyd pwll nofio 18 metr, gyda llwyfan plymio a sbringfwrdd, ym 1910.
Byddai niferoedd mawr o addolwyr yn mynychu gwasanaethau Sul gorlanw yn y sefydliad ym 1905, pan ysgubodd dirwasgiad Cristnogol ledled Cymru gan olygu nad oedd digon o le mwyach yn Eglwys Fethodistaidd Abertyleri.
Roedd cyfarfodydd gwleidyddol yn y sefydliad yn rhoi’r cyfle i nifer o weithwyr lleol fynegi a datblygu eu meddyliau am undebaeth lafur a sosialaeth, a gwrando ar arweinwyr gan gynnwys Keir Hardie ac Ernest Bevin. Aeth sawl un ymlaen i fod yn gynghorwyr ac ASau Llafur.
Fe ddinistriwyd y sefydliad gan dân ym 1951. Roedd yr effaith ar weithgareddau cymunedol yn “drychinebus”. Daethpwyd o hyd i leoliadau eraill dros dro ar gyfer llawer o grwpiau a digwyddiadau. Dechreuwyd codi arian ar unwaith i godi adeilad newydd yn ei le, ac fe agorodd hwnnw ym 1955. Uwchben y fynedfa gallwch weld murlun gan yr arlunydd Pwylaidd Adam Kossowski (1905-1986), a garcharwyd yn Siberia yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ym mis Mawrth 1984 fe ymgynullodd gweithwyr o lofeydd y Chwe Chloch a Rose Heyworth yn y sefydliad ac fe bleidleision nhw yn erbyn y streic yr oedd arweinwyr Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn ei hargymell. Pan alwyd y streic genedlaethol, fe gydymffurfiodd glowyr Abertyleri. Yn ystod y streic a barodd am flwyddyn gyfan, bu menywod lleol yn gwirfoddoli yn y sefydliad i baratoi parseli bwyd i’w dosbarthu i lowyr a’u teuluoedd.
Fe ail-agorodd y sefydliad ar ôl ei adnewyddu yn 2008.
Gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac i Graham Bennett am yr wybodaeth am streic 1984
Cod post: NP13 1EG Map
Mwy am y sefydliad yn ystod streic 1984-85 ar wefan Graham Bennett
![]() |