Safle’r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn Wrecsam, Parc Manwerthu Island Green

Mae’r parc manwerthu wedi’i leoli ar y tir lle cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn Wrecsam, yn 1876. Hon oedd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf i ddyfarnu “cadair ddu” ar ôl marwolaeth bardd.

Old drawing of Island Green, WrexhamMae’r Eisteddfod wedi’i chynnal mewn lle gwahanol bob haf ers 1861. Yn 1876 roedd lle agored rhwng bragdy Island Green ac, i’r gogledd, amrywiol adeiladau a strydoedd bychain ar hyd Stryd y Rhaglyw. Mae’r bragdy ar y chwith yn yr hen lun, sydd hefyd yn dangos Eglwys San Marc, lle mae’r maes parcio aml-lawr heddiw.

Adeiladwyd “pafiliwn enfawr” ar gyfer yr Eisteddfod ym mhen gorllewinol y safle, fel y dangosir yn y cynllun. Amcangyfrifid bod 8,000 o bobl wedi mynychu’r seremoni agoriadol y tu mewn.

Plan of the 1876 Eisteddfod siteRoedd y bragdy ar ochr chwith y pafiliwn yn y cynllun. Roedd mynedfeydd i faes yr Eisteddfod o Stryd y Bryn ac yn agos at yr eglwys.

Mynychwyd yr eisteddfod, o 22 i 25 Awst, gan tua 25,000 o bobl. Daeth llawer ohonont i'r hyn sydd bellach yn orsaf Wrecsam Cyffredinol ar drenau arbennig.

Dyma'r eisteddfod gyntaf i gynnwys swyddfa bost gydag offer telegraff, wedi'i lleoli y tu mewn i'r pafiliwn. Roedd lle i 50 i 60 o ohebwyr papur newydd a allai anfon eu herthyglau heb adael y pafiliwn.

Roedd seremoni’r cadeirio yn ddramatig. Cyhoeddwyd mai’r enillydd oedd Thomas Jones, ‘Taliesin o Eifion’ (llun isod, trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Yna clywodd y gynulleidfa ei fod wedi marw'r bore ar ôl cyflwyno ei awdl fuddugol. Ar y llwyfan, gorchuddiwyd y gadair a enillodd â lliain du a gwisgodd y beirdd freichledau duon cyn i'r pencerddes Edith Wynne ganu Dafydd y Garreg Wen (am delynor yn marw) mewn llais toredig.

Portrait of poet Thomas Jones, Taliesin o EifionRhoddwyd gwobrau am lawer o bynciau heblaw barddoniaeth a cherddoriaeth, gan gynnwys am y cyfieithiad gorau o As You Like It gan Shakespeare, y casgliad gorau o fwynau o Ogledd Cymru, y ddau ffotograff gorau o dref Wrecsam, y darn gorau o wlanen a'r ffigurau derw Cymreig cerfiedig mwyaf artistig.

Yn ddiweddarach, daeth y safle yn rhan o derfynfa rheilffordd Wrecsam Canolog, a agorodd yn 1887. Symudwyd yr orsaf tua'r gorllewin yn 1998 i wneud lle i'r parc manwerthu.

Cod post: LL13 7LW    Map

Gwefan Parc Manwerthu Island Green