Pwynt gweld Aber Hafren, Porthsgiwed

button-theme-prehistoric-more Monmouthshire county council logo

Mae'r tirwedd y gallwch ei gweld o'r fan hon ar Lwybr Arfordir Cymru yn gyfoethog o drysorau naturiol a dynol. Yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf (a ddaeth i ben tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl), gostyngodd lefelau'r môr tua 135 metr a daeth Aber Hafren yn dir. Wrth i rewlifoedd doddi a'r môr godi'n raddol, dechreuodd helwyr-gasglwyr fyw yma. Mae olion eu haelwydydd, eu hoffer a hyd yn oed bwyd wedi'u canfod yn yr ardal.

Mewn cae i'r gogledd o ben mewndirol Ffordd Black Rock mae siambr gladdu o'r enw Heston Brake - crug Neolithig sy'n mesur 25 wrth 12 metr. Y tu mewn mae dwy siambr gyda chysylltiad mewnol.

Mae Pwyllgor Ymchwil Lefelau Aber Afon Hafren wedi dogfennu newid lefel y môr a boddi'r dirwedd dros amser daearegol.

Mae dwy bont draffordd Hafren, y naill ochr i chi yma, yn nodweddion o dirwedd heddiw ac yn adlewyrchu ymdrechion dynol i gau’r bwlch rhwng Cymru a Lloegr dros y canrifoedd.

Mae'r aber yn darparu mannau bwydo cyfoethog i fywyd gwyllt. Bob blwyddyn, mae tua 100,000 o adar mudol yn treulio'r gaeaf yn yr Ardal Gwarchodaeth Arbennig ddynodedig hon. Maent yn cynnwys gwyddau, corhwyaid (teal), Gïach cynffonfain (pintail), Coegylfinir (whimbrel) a’r cornicyll (ringed plover). Mae gan yr aber fwy na 100 o rywogaethau pysgod, gydag eogiaid a brithyll môr (sewin) yn mudo'n flynyddol i'w wyth afon llednentydd. Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent yn rheoli'r warchodfa Cors Fagwyr ar Wastadeddau Gwent, ychydig i'r dwyrain o'r fan hyn.

Mae'r safbwynt hwn ar ran Sir Fynwy o Lwybr Arfordir Cymru, llwybr 1,400km (870 milltir) o amgylch arfordir cyfan Cymru. Defnyddiwch yr eiconau llywio isod i ddarganfod mwy am y cannoedd o leoedd eraill ar hyd y llwybr lle gallwch ddefnyddio codau QR HistoryPoints i ddarllen am y gwrthrychau neu'r dirwedd yn yr ardal honno.

Gallwch ddarganfod mwy am y themâu hyn drwy ddarllen y paneli yn Black Rock neu ddilyn y dolen isod.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Gweld Map Lleoliad  

Daearyddiaeth – mwy am siap newidiol y tir dros gyfnod (gwefan SELRC)

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button