Olion adeilad y Rhufeiniaid, Cold Knap, Barri
Tu ôl i'r ffens ar ben y clawdd glaswelltog yma, gallwch weld olion adeilad Rhufeinig. Mae'r meini sydd wedi goroesi – rhannau isaf y waliau a'r sylfeini – yn mapio'n daclus y cynllun allanol a mewnol. Roedd 22 o ystafelloedd, wedi'u grwpio o amgylch cwrt.
Mae arbenigwyr o Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent wedi dyddio'r adeilad i ddiwedd y 3edd ganrif OC. Erbyn hynny roedd y Rhufeiniaid wedi bod yn weithgar yn y cyffiniau hyn ers tua 200 mlynedd.
Roedd harbwr naturiol ychydig i'r dwyrain yn lle delfrydol i angori cychod a llongau. Un theori yw bod yr adeilad yn westy. Mae'r ymddiriedolaeth wedi awgrymu y gallai'r adeilad fod wedi bod yn un swyddogol, sy'n gysylltiedig â gweithgaredd llyngesol yn yr harbwr, oherwydd nid oes tystiolaeth bod unrhyw faddonau, cyflenwad dŵr a manteision eraill yma, fel y byddai fel arfer mewn fila Rufeinig.
Collwyd yr adeilad o'r golwg am ganrifoedd tan y 1960au, pan ddatgelwyd y cwrt yn ystod gwaith adeiladu yn yr ardal. Darganfuwyd darnau o grochenwaith a theils Rhufeinig. Ar ddechrau'r 1980au cloddiodd yr ymddiriedolaeth y safle, sydd wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol ers hynny.
Mae peth o'r garreg a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid yma o fath a geir yn Bull Cliff gerllaw a mannau eraill ym Morgannwg, sy'n cynnwys ffosilau o wystrys bach a deufalfiau eraill.
Am enw'r lle:
Ymddangosodd Cold Knapp fel Colde Knapp a The Coale mewn cofnodion 1622, Coal Knap yn 1762 a 1833, a Cold Knap yn 1811. Un ffynhonnell bosibl yw'r gair Saesneg cold (Hen Saesneg: cald, ceald). Un arall yw coal, a allai yn yr achos hwn gyfeirio at golosg. Mae map o 1762 yn dangos pyllau golosg yn fferm Cold Knap.
Daw Knap o'r Hen Saesneg cnæpp ("pen bryn"), sydd hefyd yn rhoi'r gair Cymraeg cnap (lwmp neu nobyn yn y dirwedd). Heddiw gelwir yr ardal yn gyffredin fel y Knap.
Gyda diolch i'r Athro Gwynedd Pierce a Richard Morgan, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Cyfieithiad gan Gwyndaf Hughes
Cod post: CF62 6FF Gweld Map Lleoliad
![]() |
![]() ![]() |