Cofeb R Williams Parry, Talysarn

Cofeb R Williams Parry, Talysarn

Dadorchuddiwyd y gofeb hon yn 1969 i goffáu'r Prifardd Robert Williams Parry a aned yn 1884 ym Madog View yn Nhalysarn.

Portrait of Robert and Myfanwy Williams ParryGraddiodd Bob, fel yr adwaenid ef gan ei gyfoedion, o Fangor ac yn ddiweddarach enillodd radd Meistr am ei ymchwil i gysylltiadau rhwng y Gymraeg a'r Llydaweg, a threuliodd gyfnod byr yn Llydaw. Bu'n dysgu mewn ysgolion mewn gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys Caerdydd, cyn iddo wasanaethu yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl rhai blynyddoedd pellach fel athro ysgol, treuliodd weddill ei yrfa fel darlithydd prifysgol ym Mangor.

Mae ei gerddi i'w cael yn Yr Haf a Cherddi Eraill (1924) a Cerddi'r Gaeaf (1952). Adlewyrchir ynddynt ei fagwraeth yn ardal y chwareli llechi, ei ddiddordeb yn chwedloniaeth Cymru ac agweddau ar gynnwrf cymdeithasol a gwleidyddol ei gyfnod gan gynnwys ei ymateb i'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Photo of R Williams Parry memorial in 1969Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1910 gyda'i awdl ramantaidd enwog Yr Haf a'i sefydlodd yn "Fardd yr Haf" ar lafar gwlad am weddill ei oes. Mae ei englynion coffa i Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans), y bardd-filwr a laddwyd ar faes y gad ym mis Gorffennaf 1917, ymhlith ei gerddi mwyaf cofiadwy. Yn ddiweddarach gosodwyd un o'i sonedau mwyaf poblogaidd, Mae Hiraeth yn y Môr, i gerddoriaeth gan Dilys Elwyn Edwards.

Priododd Bob â Myfanwy Davies yn 1923. Gwelir y cwpl yn y llun o c.1923, o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ni chawsant blant. Bu farw Bob yn 1956 a chladdwyd ef ym mynwent Coetmor, Bethesda.

Mae'r llun arall (trwy garedigrwydd Betty Williams) yn dangos y gofeb newydd yn 1969. Mae'r bwrdd sy'n gorchuddio'r plac ar y brig yn awgrymu bod y gofeb yn aros i gael ei dadorchuddio'n swyddogol ar y pryd. Roedd y bobl ifanc leol yn y llun wedi ennill gwobrau mewn sioe dalent yn Happy Valley, Llandudno. Yn sefyll yn y cefn mae Betty Williams, oedd wedi ennill gwobr am ganu unawd. Hi oedd AS Llafur Conwy rhwng 1997 a 2010.

Gyda diolch i'r Athro Gerwyn Wiliams, o Brifysgol Bangor

Cod post: LL54 6HL    Map