Castell Penrhyn, Bangor
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg ar hyd ymyl ogleddol Parc Penrhyn, a ddatblygwyd gan deulu a wnaeth ffortiwn o blanhigfeydd siwgr a weithiwyd gan gaethweision ac o chwareli llechi. Rheolir y parc a Chastell Penrhyn gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ond nid oes mynediad uniongyrchol o lwybr yr arfordir. Dilynwch y ddolen isod am wybodaeth ymweld.
Gellir gweld rhan o'r castell o lwybr yr arfordir, ar ben y llethr glaswelltog. Islaw llwybr yr arfordir mae adfeilion baddon morol, a adeiladwyd ar gyfer preswylwyr y castell yn y 18fed ganrif.
Disodlodd Castell Penrhyn faenordy a gafodd ei ehangu a'i atgyfnerthu c.1440. Adeiladwyd y castell presennol rhwng 1822 a 1837 ar gyfer George Hay-Dawkins Pennant. Roedd wedi priodi â theulu Pennant, a oedd yn berchen ar stad y Penrhyn. Roedd hefyd yn berchen ar blanhigfeydd siwgr yn Jamaica yr oedd Gifford Pennant wedi dechrau eu datblygu yn yr 17eg ganrif.
Etifeddwyd y stadau gan Richard Pennant. Roedd yn AS dros Lerpwl a siaradai’n aml yn y Senedd o blaid caethwasiaeth. Roedd ef a’r ddinas yn elwa’n ariannol o gaethweisiaeth. Roedd Richard, y Barwn Penrhyn 1af, yn berchen ar bron i 1,000 o gaethweision erbyn 1805. Bu farw ym 1808 a throsglwyddwyd ei stadau i George. Ar ôl i Brydain ddileu caethwasiaeth ym 1833, gwnaeth y llywodraeth ddigolledu perchnogion caethweision am eu caethweision a ryddhawyd.
Bu'n rhaid i George ryddhau 764 o gaethweision, ar bedair stad yn Jamaica. Am hyn derbyniodd bron i £14,700 o iawndal, tua £1.8m heddiw. Ni dderbyniodd y caethweision unrhyw iawndal.
Bu farw George yn 1840 a throsglwyddwyd ei gyfoeth enfawr i'w ferch Juliana a'i gŵr Edward, a wnaethpwyd yn Arglwydd Penrhyn ym 1866. Dangosir llun Castell Penrhyn tua 1840 yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
O 1782 ymlaen, datblygodd aelodau olynol o’r teulu chwarel y Penrhyn, ger Bethesda, i fod yn chwarel lechi fwyaf y byd. Fe wnaethant hefyd ariannu neu roi tir ar gyfer llawer o ffyrdd, tai, addoldai ac ysgolion.
Ymhlith y ffynonellau mae'r Ganolfan Astudio Cymynroddion Perchnogaeth Caethweision Prydeinig a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Cod post: LL57 4HT Map
Gwybodaeth i ymwelwyr a mwy o hanes – gwefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
![]() |
![]() ![]() |