Yr Hen Ysgol, Amroth
Codwyd yr adeilad a fu ar un adeg yn ysgol gyferbyn ag Eglwys St Elidyr yn y 1870au ar dir a roddwyd gan Samuel Kay, Colby Lodge. Un ystafell oedd yno’n wreiddiol a’r seddau yn codi’n rhesi yn un pen iddi. Pan wnaed gwaith adnewyddu sylweddol yno yn 1905 mynychai’r plant, ysgol dros dro mewn bwthyn ger castell Amroth.
Cyn hynny, a thipyn o amser yn ôl, roedd dwy ysgol; y naill ger y castell i blant dwyrain y plwyf a’r llall ym Merrixton (mae’r enw lle yn golygu ‘fferm sy’n eiddo i Meurug’) i blant gorllewin y plwyf. Roedd dyn busnes a anwyd yn Amroth, David Rees, wedi gwneud ei ffortiwn yn Llundain. Pan fu farw yn 1789 gadawodd swm o arian mewn cronfa ymddiriedolaeth er mwyn addysgu faint a fynnid o blant gwryw a benyw. Roedd £15 y flwyddyn i dalu cyflog athro ac i gynnal a chadw’r ysgol a £5 y flwyddyn i’w rhannu rhwng y tlodion mwyaf anghenus.
Roedd y plant yn cael eu dysgu i ddarllen ac ysgrifennu am ddim ond roedd eu teuluoedd yn gyfrifol am dalu ryw driswllt bob chwarter os oedden nhw am i’r plant ddysgu mathemateg. Hyd at y 1870au roedd yr addysgu mewn adeilad ar dir yr eglwys.
Claddwyd David Rees ym mynwent St Elidyr. Mae plant Amroth yn dal i elwa ar ei haelioni. Yn 1884 sefydlwyd Elusen Addysgol David Rees er mwyn parhau â’r gwaith. Heddiw mae’n cael ei rheoli gan ymddiriedolwyr wedi’u dewis o blith aelodau Cyngor Cymuned Amroth. Rhoddir swm o arian i bob plentyn sy’n byw yn Amroth wrth iddo ef neu hi symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd i gynorthwyo gyda threuliau plant sy’n symud o’r cynradd i’r uwchradd a’u helpu i fwynhau cyfnod newydd yn yr ysgol uwchradd.
Mae hen adeilad yr ysgol wedi’i droi’n dŷ preifat bellach, wedi i’r ysgol gau yn 1982 . Mae tŷ’r ysgolfeistr gynt (tŷ preifat arall erbyn hyn) wrth ei dalcen. Mae’r bocs postio o oes Fictoria, ger y glwyd, yn dal mewn ddefnydd.
Mae plant Amroth yn teithio i gymunedau cyfagos i’w haddysgu erbyn hyn. Mae cynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Amroth ar fyrddau llywodraethu ysgolion Tavernspite a Stepaside.
Diolch i Mark Harvey
Cod post: SA67 8NJ Gweld map y lleoliad