Gorsaf reilffordd Ynysowen

Transport for Wales logo round sign-out button-theme-crimebutton-theme-irish-welsh

Roedd Ynysowen yn dal yn wledig pan agorodd y Taff Vale Railway o Ferthyr Tudful i Gaerdydd yn 1841. Er i gloddio glo ddenu llawer mwy o bobl, gwrthododd y TVR alwadau am orsaf yn Ynysowen tan ddechrau'r 1880au, pan wnaeth cwmni’r Rhymney Railway wneud cais am bwerau i adeiladu rheilffordd gyfochrog trwy'r cwm. Agorodd yr orsaf yn 1883 ac fe'i dangosir yn y llun awyr 1951 isod trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru – gwelwch y troednodiadau am fanylion.

Photo of Merthyr Vale station in 1992Ym mis Mawrth 1890, rhedodd y TVR drenau arbennig i Ynysowen ar gyfer dadorchuddio cofeb ym mynwent Aberfan i'r saith milwr ifanc a fu farw yn nhrychineb cwch Larnog ym 1888. Bu torf o filoedd yn gwylio 3ydd Bataliwn Gwirfoddol Catrawd Cymru, mwy na 1,100 o ddynion, yn ymgynnull y tu allan i'r orsaf ac yn gorymdeithio i'r fynwent.

Arestiwyd yr AS Gwyddelig Patrick O'Brien yng ngorsaf Ynysowen ym mis Medi 1890. Ymgyrchodd ei blaid dros hunanlywodraeth i Iwerddon. Aethpwyd ag ef i Gaerdydd, cyn cael ei anfon i Tipperary i’w dreialu ochr yn ochr â nifer o ASau eraill mewn cysylltiad â phrotestiadau gan ffermwyr tenant Gwyddelig yn erbyn eu landlordiaid.

Aerial photo showing Merthyr Vale station in 1951Gwelir gorsaf Ynysowen yn y ffilm 10 Rillington Place o 1971, sy’n adrodd stori wir dienyddiad anghyfiawn Timothy Evans. Roedd Timothy, a fagwyd yn Ynysowen, wedi’i gael yn euog o ladd ei wraig Beryl a’u merch fach Geraldine yn eu fflat yn Rillington Place, Notting Hill, Llundain. Cafodd ei grogi ym 1950. Dair blynedd yn ddiweddarach, cyfaddefodd John Christie, a oedd wedi byw mewn fflat islaw, i lofruddio Beryl a Geraldine. Roedd wedi lladd o leiaf wyth o bobl.

Mae’r ffilm o 1971 yn dangos ymddangosiad yr orsaf cyn i British Rail dynnu un o’r traciau, cau un platfform a disodli’r adeiladau gyda’r lloches bloc concrit a welir yn y llun uchod o fis Ebrill 1992. Dim ond un trên bob awr a redai ar y trac sengl i Ferthyr Tudful, ond yn 2008 ariannodd Llywodraeth Cymru linell ddolen 3km trwy Ynysowen i gynyddu’r gwasanaeth i ddau drên yr awr. Roedd y prosiect yn cynnwys ailagor yr ail blatfform.

Yn y 2020au, trydaneiddiodd Trafnidiaeth Cymru'r llinell a gosod traciau ychwanegol ar gyfer pedwar trên yr awr. Dechreuodd trenau trydan wasanaethu Ynysowen ym mis Tachwedd 2024.

Cod post: CF48 4TE    Map

Troednodiadau: Beth sydd i'w weld yn awyrlun 1951

Mae gorsaf Ynysowen yn y gornel dde isaf. I'w chwith mae'r rheilffordd i mewn i lofa Ynysowen, i'w weld ar ben y llun. Yn y gornel chwith uchaf mae gorsaf Aberfan, ar hen linell y Rhymney Railway o Ferthyr Tudful (agorwyd ym 1886). Aeth trenau teithwyr tua'r de o Aberfan i Lefel Uchel Mynwent y Crynwyr, Treharris, Nelson, Ystrad Mynach a Chaerdydd Heol y Frenhines Caerdydd.

Mae hen Gamlas Sir Forgannwg – a lenwyd erbyn 1951 – yn rhedeg o gerllaw gorsaf Aberfan i lawr ochr chwith y llun.