Tram geffyl, Llanbedrog
Y car tram ar dir Oriel Plas Glyn-y-Weddw yw'r un olaf i oroesi o dramffordd Pwllheli i Llanbedrog.
Adeiladodd y dyn busnes o Gaerdydd, Solomon Andrews, y dramffordd yn y 1890au, rhwng promenâd y Gorllewin oedd newydd ei ddatblygu ym Mhwllheli a Craig y Defaid. Roedd y mesurydd (pellter rhwng y rheiliau) yn 91cm (3tr). Y gost oedd £7,000 (tua £1m yn arian heddiw).
Prynodd Plas Glyn-y-Weddw yn 1896 a'i ddatblygu fel oriel gelf. Estynnodd y trac i derminws ychydig i'r gogledd o'r oriel (a ddangosir yn y llun uchaf). Ym mis Medi 1896 rhedodd y tram cyntaf dros estyniad trac arall, o'r Pen Gorllewinol i ganol Pwllheli. Erbyn haf 1897 roedd 10 tram. Roedd rhai wedi eu cau a rhai ar agor. Dangosir y ddau fath yn y llun isaf, a dynnwyd yn Crugan.
Am un swllt yr un, gallai ymwelwyr ym Mhwllheli brynu tocyn cyfun ar gyfer y daith "tram forol" a mynediad i'r oriel a'i gerddi. Cafwyd gostyngiadau ar gyfer partïon picnic ac ysgolion. Rhoddwyd reidiau am ddim i grwpiau haeddiannol ar wibdeithiau glan môr, gan gynnwys tlodion y wyrcws, plant amddifad a milwyr a anafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Un teithiwr enwog oedd John Jones, sy'n enwog am ei ddihangfeydd niferus o gaethiwed, gan gynnwys carchar Rhuthun. Teithiodd ar y tram yn 1906 a phasiodd ei hun i ffwrdd yn Llanbedrog fel morwr ar y lan am wyliau, gan wario’n hael mewn hosteli lleol. Yn fuan wedyn, cafodd ei arestio am iddo guro menyw 71 oed yn Abererch i ddwyn £10 ganddi.
Roedd y dramffordd yn un trac gyda llawer o linellau dolen byr ar gyfer tramiau i gyfeiriadau gwahanol basio ei gilydd. Cafodd ei difrodi gan stormydd lawer gwaith, gan ddechrau yn 1896. Gosododd y teulu Andrews amddiffynfeydd môr ond achosodd difrod storm ym 1927 gau'r lein yn barhaol, er bod tramiau'n parhau i redeg o fewn Pwllheli am flwyddyn arall.
Roedd y car tram hwn yn siop fwyd ar fferm leol nes iddo gael ei ddarganfod yn 1967. Ar ôl ei adnewyddu, ffurfiodd ganolfan groeso anarferol ym Mhwllheli yn yr 1980au. Gyda chyllid o Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn, cafodd y tram ei hadnewyddu cyn cael ei osod ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn 2016.
Heddiw mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn llwybr y dramffordd i'r dwyrain o Lanbedrog.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL53 7TT Gweld Map Lleoliad
Gwefan Oriel Plas Glyn-y-Weddw
![]() |
![]() ![]() |