Cyn Glwb Rhyddfrydol, Caernarfon
Cyn Glwb Rhyddfrydol, 27 Stryd Bangor, Caernarfon
Yr adeilad hwn oedd clwb y Blaid Ryddfrydol ar gyfer yr ardal pan oedd David Lloyd George yn Brif Weinidog. Heddiw mae'n gartref i Ellis Davies & Co, cwmni y cyfreithiwr a sefydlwyd gan AS Rhyddfrydol lleol arall. Mae'r geiriau “Liberal Club” i'w gweld o hyd ar y ffryntiad, uwchben y llawr cyntaf.
Roedd Lloyd George (1863-1945) hefyd yn gyfreithiwr. Yn 1890 cafodd ei ethol i gynrychioli Bwrdeistrefi Caernarfon, gan gwmpasu'r prif drefi cyn belled i'r dwyrain â Llandudno. Daeth yn Llywydd y Bwrdd Masnach ym 1905, yn Ganghellor y Trysorlys yn 1908 ac yn Brif Weinidog yn 1916. Dathlwyd pob un o'r digwyddiadau hynny yn yr adeilad hwn. Mae ei gerflun, a gafodd ei greu tra roedd yn dal i fod yn Brif Weinidog, yn sefyll yn Y Maes, nepell i'r de o'r fan hon.
Daeth Ellis William Davies (1871-1939), yn y llun ar y dde, yn AS dros Eifion, ardal wledig yn Sir Gaernarfon, ym 1906. Bu'n ymwneud â nifer o bwyllgorau Seneddol ond torrwyd ei yrfa wleidyddol yn fuan ar ôl 12 mlynedd pan wrthododd gefnogi clymblaid Lloyd Lloyd (Rhyddfrydwyr a Cheidwadwyr). Gorchfygwyd ef yn etholiad cyffredinol 1918 gan ymgeisydd y glymblaid.
Dychwelodd i Dŷ’r Cyffredin ym 1923 fel AS Dinbych, ond gorfododd afiechyd ef i ildio’i sedd ym 1929. Bu’n aelod o’r Blaid Lafur ar ddiwedd y 1930au ond ni allai gytuno â’i pholisïau tramor. Ysgrifennodd hefyd ar hanes a gwleidyddiaeth ar gyfer cyhoeddiadau Cymraeg. Gallwch ddarllen mwy amdano ar ein tudalen am ei gyn-gartref yng Nghaernarfon.
Symudodd y cwmni cyfreithiol sy'n dwyn ei enw i'r hen Glwb Rhyddfrydol yn y 1990au.
Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad
Cod post: LL55 1AT Map