Cyn Ysgol Brydeinig, Caernarfon
Cyn Ysgol Brydeinig, Caernarfon
Sefydlwyd Ysgol Brydeinig Caernarfon yn 1846 i helpu plant o deuluoedd tlawd i dderbyn addysg sylfaenol. O 1856 ymlaen, roedd yr adeilad hwn, a gynlluniwyd gan y pensaer John Lloyd (1795-1867), yn gartref i'r ysgol.
Defnyddiwyd yr ysgol hefyd ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus, gan gynnwys cyfarfodydd etholiadol a chyngherddau. Ym mis Ionawr 1871 rhoddodd y cyfansoddwr Joseph Parry gyngerdd ffarwel yma cyn iddo adael am Virginia, UDA, lle treuliodd y tair blynedd nesaf o’i fywyd.
Ar ddiwedd y 18fed ganrif - pan nad oedd addysg yn orfodol i blant - roedd llawer o ysgolion yn cael eu rhedeg gan Eglwys Lloegr neu gan gapeli gyda chefnogaeth elusennol, fel y gallai plant o deuluoedd tlawd ddysgu darllen. Araf oedd datblygiad yr ysgolion hyn, ac yn gynnar yn y 19eg ganrif cryfhaodd yr ymgyrchu ar gyfer gwella llythrennedd.
Yn 1808 sefydlwyd Cymdeithas Ysgolion Prydeinig a Thramor - ar gyfer plant o bob crefydd. Fe grewyd “Ysgolion Prydeinig” ynghyd â sefydliadau hyfforddi athrawon a oedd mewn sawl man yn gystadleuwyr i “Ysgolion Cenedlaethol” oedd yn dod o dan yr Eglwys.
Cytunodd Bwrdd Ysgol Caernarfon i gymryd yr Ysgol Brydeinig drosodd yn 1873. Crëwyd y bwrdd o dan Ddeddf Addysg 1870 - y cyntaf o sawl Deddf Seneddol a wnaeth addysg yn orfodol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer plant rhwng pump a 13 oed. Cyrff cyhoeddus oedd y byrddau a allai sefydlu neu reoli ysgolion elfennol; etholwyd aelodau i'r bwrdd a daeth cyllid ysgolion o drethi lleol.
Arhosodd yr adeilad yn ysgol gynradd tan 1973, pan symudodd yr holl blant - ynghyd â’r ysgol ‘merched a babanod’ ar draws y ffordd - i adeilad newydd yn Ysgol yr Hendre, ar gyrion y dref. Addaswyd yr adeilad fel canolfan ieuenctid ym 1979. Fe'i rhestrir fel ysgol sydd wedi'i chadw'n eithriadol o dda o ganol y 19eg ganrif. Mae tŷ'r ysgolfeistr yn dal i sefyll, y tu ôl i'r ysgol.
Gyda diolch i Ann Lloyd Jones, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon
Cod post: LL55 1NS Map
![]() |
![]() ![]() |