Gorsaf reilffordd Tref Glynebwy
Agorwyd yr orsaf hon yn 2015 i gynorthwyo adfywiad economaidd Glynebwy. Saif ger safle Tyllwyn Halt, ar linell y Great Western Railway (GWR) o Gasnewydd i orsaf 'lefel isel' Glynebwy.
Mae'r llun o'r awyr o 1948, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos safle'r orsaf bresennol a Swyddfeydd Cyffredinol y gwaith dur ar y gwaelod. Mae'r brif reilffordd yn parhau heibio'r swyddfeydd a thrwy Sarn y Drenewydd i orsaf y GWR yn y gornel chwith uchaf.
Gallwch weld mwy o luniau a gwybodaeth am linell y GWR ar ein tudalen am Sarn y Drenewydd. Roedd gorsaf 'lefel uchel' y London & North Western Railway ger lle mae cloc y dref yn sefyll heddiw.
Daeth trenau teithwyr rhwng Glynebwy a Chasnewydd i ben yn 1962 wrth i Reilffyrdd Prydeining flaenoriaethu trenau a gludai nwyddau o’r gwaith dur a nifer o byllau glo. Cafwyd mwy o alwadau ar Gyngor Sir Gwent i sefydlu gwasanaeth teithwyr newydd ar ôl i ailagor gorsafoedd a rheilffyrdd mewn ardaloedd eraill – yn enwedig y llinell o Aberdâr i Gaerdydd ym 1988 – ddangos sut y gallai gwasanaethau trên newydd gynorthwyo adfywio trwy gysylltu cymunedau ôl-ddiwydiannol â chanolfannau cyflogaeth mawr.
Roedd adfer trenau teithwyr Glynebwy yn flaenoriaeth i lywodraeth ddatganoledig newydd Cymru o 1999 ymlaen. Cynyddodd cau gwaith dur Glynebwy yn 2002 yr angen am adfywio economaidd. Arweiniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent gonsortiwm o awdurdodau lleol a ailosododd y trac ac a adeiladodd orsafoedd newydd ar hyd y llwybr.
Y derfynfa gychwynnol oedd Parcffordd Glynebwy. Dechreuodd gwasanaeth bob awr i Gaerdydd Canolog ym mis Chwefror 2008. Cysylltai bws wennol yr orsaf â chanol y dref am y flwyddyn gyntaf.
Wedi i safle'r gwaith dur gael ei glirio, roedd lle i osod trac rheilffordd newydd, a ariannwyd unwaith eto gan Lywodraeth Cymru, fel y gallai'r trenau gyrraedd Tref Glynebwy. Mae'r llun uchaf yn dangos yr orsaf newydd ym mis Ebrill 2015, gyda Swyddfeydd Cyffredinol y gwaith dur y tu ôl.
Creodd rhaglen fuddsoddi arall gapasiti ychwanegol rhwng Llanhiledd a Crosskeys. Galluogodd hyn i drenau o Lynebwy i Gasnewydd ddechrau ym mis Ionawr 2024. Mae trenau Trafnidiaeth Cymru bob awr i Gaerdydd a Chasnewydd yn darparu cysylltiadau bob hanner awr rhwng gorsafoedd yn y dyffryn.
Cod post: NP23 6DN Map
![]() |