Safle depo bws Crosville, Bangor

button-theme-evacImage of Bangor City Council Crest

Safle depo bws Crosville, Ffordd y Traeth, Bangor

Saif Clwb Cymdeithasol Crosville dros y ffordd o safle ar y stryd hon lle roedd depo bysiau’r cmwni. Rhoddodd y depo wasanaeth a chyflogaeth i’r ardal am genedlaethau o 1932 hyd 2006.

Photo of Bangor bus crew

Dyma lun o griw Crosville ym Mangor tua 1950au neu’r 1960au cynnar. Ken Lewis yw’r trwsiwr ar y chwith, brodor o Fangor a chwaraeodd bêl droed i Fangor, Walsall, Boston a Scunthorpe United. 

Roedd y safle ar ran o hen briordy Dominicaidd o 1250. Wrth osod pibell nwy ar ben gogleddol Ffordd Seiriol yn 1898, cafwyd hen feddau a sylfaen beth a edrychai fel eglwys. Credir i’r Dominiciaid sefydlu eglwys yma ond ei hailadeiladu i’r gorllewin ar ôl i’r hen eglwys gael ei difrodi gan dân.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd symudodd Cwmni Moduron Daimler peth o’i gwaith i Fangor o’i phencadlys yn Coventry. Defnyddiwyd modurdy Crosville a ffactori newydd yng Glanadda a gafwyd gan y Weinyddiaeth Cynhyrchu Awyrennau. Sefydlwyd y Weinyddiaeth yma ym Mai 1940 fel adwaith i drafferthion cynhyrchu fel roedd Brwydr Prydain ar ddechrau. Ail-leolwyd y cynhyrchu i ardaloedd ‘mwy diogel’ gan i ardaloedd de a chanol Lloegr gael eu bomio gan yr Almaenwyr.

Cyflogwyd dros 1,000 ym Mangor gan wneud siafftiau a llafnau gwthio (propellers) i beiriannau awyr Rolls-Royce a pheiriannau-aero ar gyfer y Bristol Aeroplane Company lle eu defnyddiwyd ar gyfer awyrennau fel y Fairey Swordfish a’r llong fomio Halifax. Pencadlys Daimler oedd Castell Penrhyn sydd nawr yn  eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cyflogwyd llawer o ferched yr ardal yno.

photo of Bangor buds depot

Mae’r llun isaf yn dangos depo bysiau Bangor yn yr 1980au.

Sefydlwyd Cwmni Moduron Crosville yng Nghaer yn 1906. Fe dyfodd gan ennill cwmnïau Gogledd Cymru rhwng y ddau ryfel byd gan gynnwys y Bangor Blue (gweler y troednodyn). Yna daeth yn rhan o’r Cwmni Bws Cenedlaethol.

Yn 1987 prynwyd Crosville Wales gan ei reolwyr ar ôl i’r cwmni gael ei rannu rhwng Lloegr a Chymru o’i breifateiddio.  Yna fe gafodd Crosville Wales ei brynu gan y Cowie Group, a newidiodd yn Arriva yn niwedd yr 1990au. Sefydlwyd lle newydd ar gost o £1m ar stad ddiwydiannol Llandygai yn niwedd y 1990au. Perchnogion newydd y cwmni ers 2010 yw Deutsche Bahn, cwmni rheilffordd dan reolaeth llywodraeth yr Almaen.

Gyda diolch i Adrian Hughes, o amgueddfa Home Front, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Còd Post: LL57 1AB    Gweld Map Lleoliad

Troed nodyn: Gweithwyr Bangor Blue yn in 1927

Wartime in Llandudno Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button
Telfords Irish Road Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button