Clos Pen-y-cae, Glynebwy

BG-LogoBG-words

Mae enw’r stryd hon yn cysylltu â gwreiddiau Glynebwy fel tref cynhyrchu haearn. Mae Ffwrnais Heol Cae sydd gerllaw wedi’i henwi ar ôl y ffwrneisi chwyth a adeiladwyd yma tuag at ddiwedd y 18fed ganrif. Y wal gynnal hir y tu ôl i’r tai yw’r lle yr oedd mwyn haearn a glo’n cael eu harllwys i mewn i’r ffwrneisi.

Aerial photo of Ebbw Vale ironworks site in 1948Mae’r ffotograff o’r awyr sy’n dyddio o 1948, a ddarparwyd trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos graddfa’r wal gynnal (canol), gyda Swyddfeydd Cyffredinol y gweithfeydd dur a ddaeth yn ddiweddarach (yn y gwaelod ar y chwith) a phreswylfa’r rheolwyr, Tŷ Glynebwy (yn y canol ar y chwith).

Yn y 18fed ganrif dywedir fod dyffryn, glyn neu gwm afon Ebwy’n cael ei adnabod fel Cwm Pen-y-cae. Gallai’r enw fod wedi cyfeirio’n wreiddiol at yr ardal o amgylch Fferm Pen-y-cae ar lethr oddeutu 1.5km i’r gogledd-ddwyrain o’r fan hon.

Datblygodd y dref ar safleoedd Pen-y-cae a thŷ arall, Tyn-y-llwyn, a oedd ymhellach i lawr y dyffryn ac yn ddiweddarach yn safle ar gyfer y gweithfeydd dur. Cofnodwyd Pen-y-cae fel Pen y Cae ym 1728, Tyre pen y cae ym 1789 a Penycae ym 1839.

Roedd y dref yn cael ei hadnabod bob yn ail fel Pen-y-cae a Glynebwy tan tua 1836. Mae’n debyg bod cyfarwyddwyr y cwmni haearn yn parhau i gyfeirio at eu gwaith fel gwaith haearn Pen-y-cae. Cofnodwyd y dyffryn fel Glynebboth ym 1314. Nodwyd fod haearn yn cael ei gynhyrchu’n lleol oddeutu 1590. Dechreuodd y cyfieithiad Saesneg Ebbw Vale ymddangos ar ôl i Edward Kendall agor ei weithfeydd haearn ym 1780. Ym 1789 cymerodd Walter Watkins, Jeremiah Homfray a Charles Cracroft les ar Dir Pen-y-cae a Hendre, ynghyd â phyllau glo a mwyn haearn.

Cofnodwyd y gweithgeydd haearn fel Ffwrnais Glyn Ebwy oddeutu 1790 a Gwaith Glynebwy ym 1817. Trosglwyddodd trwy ddwylo amryw berchnogion cyn ffurfio Cwmni Haearn a Glo Glyn Ebwy ym 1864.

Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd safle gwasgarog y gwaith haearn i’r dwyrain o’r afon yn cynnwys lefelydd glo (i’r dwyrain ac i’r de o’r gwaith haearn), odynau calch, ffyrnau golosg (lle’r oedd amhureddau’n cael eu tynnu allan o’r glo) a llawer o seidins rheilffordd a thraciau tramffordd. Roedd y dramffordd yn croesi’r dyffryn ar Sarn y Drenewydd.

Roedd llafurwyr a’u teuluoedd, llawer ohonynt yn Wyddelod, yn byw ar y safle: yn Rhes y Ffwrnais (lle mae Clos Pen-y-cae yn awr), Rhes yr Odyn Galch, Rhes Gam a Rhes yr Iard Frics. Ym 1908 bu farw un o drigolion Rhes Gam o deiffws, a briodolwyd gan feddyg i orboblogi a budreddi; dim ond palis pren oedd yn gwahanu gwely’r dioddefwr oddi wrth weddill yr ystafell wely, lle’r oedd pâr priod â’u tri neu bedwar o blant yn cysgu. Roedd y cwmni eisoes wedi ymrwymo i ddymchwel Rhes Gam, unwaith y byddai’r tenantiaid (a oedd yn byw heb orfod talu rhent ar y pryd) wedi dod o hyd i gartrefi newydd.

Gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cod post: NP23 6AW    Map

button-tour-ebbw-vale-town-trail previous page in tournext page in tour