Ywen hynafol Llangernyw
Mae'r goeden hon yn oroeswr byw rhyfeddol o'r cyfnod cynhanesyddol. Mae'n debyg iddo egino yn yr Oes Efydd, tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Heddiw mae wedi'i lleoli ar dir Eglwys Sant Digain, ond roedd eisoes tua 2,000 o flynyddoedd oed erbyn geni Iesu Grist!
Mae coed ywen yn goroesi trwy adfywio. Mae canol ywen Llangernyw yn wagle, lle mae'r twf gwreiddiol wedi marw yn ôl dros y milenia. Mae pren iau yn tyfu o amgylch y gwagle, gan dynnu maetholion o'r gwreiddiau cynhanesyddol.
Ystyriai’r Celtiaid yr ywen fel coeden sanctaidd, ac roeddent yn rhyfeddu at ei gallu i farw ac aildyfu. Mae'n bosib bod yr ardal o amgylch ywen Llangernyw wedi cael ei defnyddio ar gyfer addoli cyn i Gristnogaeth ddod i Gymru, gyda'r safle'n cael ei fabwysiadu'n ddiweddarach at ddibenion Cristnogol. Beth bynnag oedd trefn y digwyddiadau, yn lle bod ywen yn cael ei phlannu ger eglwys (fel oedd yn gyffredin ar draws Prydain), cafodd yr eglwys hon ei 'phlannu' ger yr ywen.
Ni sylweddolwyd arwyddocâd y goeden tan y 1990au – ac yna symudwyd tanc olew a eisteddai yn ei gwagle yn gyflym! Yn 2002 dynododd y Cyngor Coed yr ywen hon yn un o 50 o Goed Gwych Prydain Fawr.
Disgrifiodd y bardd Margaret Sandbach, o Neuadd Hafodunos gerllaw, angladd yma yn 1852: "Roeddwn i'n cerdded i lawr i'r pentref un diwrnod yn y gwanwyn – roedd cawod drom wedi bod, ac roedd golygfa hardd a thrawiadol yn cwrdd â'm llygad wrth i mi nesáu at yr eglwys. Roedd angladd, ac o dan yr hen goeden ywen roedd grŵp tywyll o alarwyr wedi ymgasglu o amgylch y bedd – syrthiodd glem o olau ar y fan a'r lle – roedd enfys yn gwneud bwa llachar uwchben, ac roedd y gawod niwl yn pylu i ffwrdd ar y bryniau. Roedd y ddaear a'r nefoedd i'w weld yn gymysg bryd hynny – y grŵp tywyll isod – y disgleirdeb uchod. Roedd hi'n berffaith dawel hefyd, a doedd dim sŵn yn tarfu ar ddefod yr olygfa..."
Gyda diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Code post: LL22 8PQ Gweld Map Lleoliad
![]() |
![]() ![]() |