Brithweithiau tanffordd Abertyleri

BG-LogoBG-words

Rhwng y 1960au a’r 1990au gwelwyd gwelliannau mawr i’r rhwydwaith ffyrdd yn y Cymoedd Gorllewinol, gan gynnwys gwella’r A467 trwy Abertyleri yn y 1980au. Fe gomisiynodd Cyngor Sir Gwent furluniau â golygfeydd hanesyddol i addurno’r danffordd hon o dan yr A467 a’i waliau adenydd.

I'r gogledd o’r fan hon mae’r A467 yn dilyn cwrs y llinell reilffordd i Frynmawr. I’r de mae’n defnyddio hen Ffordd Aberbeeg. Mae’r danffordd mewn rhan fer o arglawdd ffordd sy’n cysylltu’r ddau goridor hynny. Yn y 19eg ganrif roedd y tir yn y cyffiniau hyn wedi’i feddiannu gan Felin Lifio’r Cymoedd Gorllewinol, gweithfeydd haearn a thunplat, gof, tŷ tafarn ac amryw ffyrdd.

Ym 1987 fe gomisiynodd Cyngor Gwent yr artistiaid Kenneth ac Oliver Budd, tad a mab, i greu murluniau ar gyfer y danffordd newydd am gost o £50,000. Cynhaliwyd seremoni agoriadol y ffordd newydd yn y danffordd ym mis Rhagfyr 1988. Y gwestai anrhydeddus oedd AS Blaenau Gwent Michael Foot, a oedd wedi arwain y Blaid Lafur rhwng 1980 a 1983.

Mae wyth panel y brithwaith yn adlewyrchu'r amrywiaeth o fywyd a gwaith yn Abertyleri oddeutu 1890-1910. Mae’r gweithleoedd a ddangosir yn cynnwys ffermydd mynydd, y gwaith tunplat, Glofa Cwmtyleri, Bragdy Webb, un o orsafoedd rheilffordd y dref a ffowndri haearn Ward Williams (a adwaenid fel “Warwill’s”). Mae panel arall yn dangos Capel Blaenau Gwent, a sefydlwyd gan y Bedyddwyr yn y 18fed ganrif ond sydd bellach wedi’i ddymchwel.

Ceir cyfoeth o fanylder i’w fwynhau yn y brithweithiau. Chwiliwch am ganeri’r pwll glo, a’r ci a chath yr oedd Kenneth ac Oliver wastad yn eu cynnwys yn eu gweithiau celf! I gael y manylion llawn, dilynwch y ddolen isod i wefan Graham Bennett.

Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent adfer y brithweithiau yn 2024.

Gyda diolch i Graham Bennett ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Mwy am y brithweithiau ar wefan Graham Bennett

Map

button-tour-abertillery-town-trail previous page in tournext page in tour