Lȏn Landing, Porth Neigwl

Lȏn Landing yw’r enw a ddefnyddir yn lleol ar y ffordd rhwng fferm Towyn a maes parcio Porth Neigwl, a landing y gelwir y caeau o’i hamgylch.

Photo of view towards Porth Neigwl and Punt y Gwair farm in the 1930sCyfeirio mae’r enw at y defnydd a wnaed o’r tir yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd pan brynwyd ffermydd cyfagos gan y Weinyddiaeth Awyr ar gyfer ysgol fomio. 

Hyfforddid milwyr yma i saethu at dargedau symudol ac roedd targedau ar y mȏr i awyrennau anelu atynt. Ar y cae rhwng y ffordd a’r mȏr roedd llain lanio ar gyfer yr awyrennau, a dyma’r ‘landing’.

Rhwng y ffordd a’r afon Soch roedd Punt y Gwair, ffermdy sylweddol a chwalwyd i ddibenion yr ysgol fomio.

Gyda diolch i Diogelu Enwau Llanengan

Map