Cylch yr Orsedd, Glynebwy

BG-LogoBG-words

Efallai fod y cylch cerrig hwn yn edrych yn gynhanesyddol ond mae’n dyddio o’r 1950au! Fe’i codwyd ar gyfer seremonïau Gorsedd y Beirdd a oedd yn gysylltiedig â’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy ym 1958. Roedd y canwr Americanaidd du, Paul Robeson, yn westai anrhydeddus yn yr Eisteddfod (gweler isod).

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol mewn ardal wahanol bob blwyddyn. Roedd yng Nglynebwy ym 1958 ac yn 2010. Roedd cerrig yr Orsedd yng Nglynebwy wedi’u gosod yn y Maes Ymarfer yn wreiddiol ond fe’u symudwyd yma pan ehangwyd y gweithfeydd dur.

Cafodd Gorsedd y Beirdd ei chynnull am y tro cyntaf yn Llundain ym 1792 gan Edward Williams, sy’n fwy adnabyddus fel “Iolo Morgannwg”. Ac yntau’n fardd, yn radical o ran ei syniadau gwleidyddol ac yn gaeth i lodnwm, fe ffugiodd ddogfennau i argyhoeddi pobl bod ffrwyth ei ddychymyg, gan gynnwys yr Orsedd a’i “derwyddon”, yn deillio o hen hanes Celtaidd.

Un o uchafbwyntiau Eisteddfod 1958 oedd dyfarnu’r gadair i T Llew Jones am ei englyn Caerllion-ar-Wysg. Roedd yn uchel ei barch fel awdur llyfrau cyffrous i blant yn Gymraeg.

Roedd Paul Robeson yn ganwr, actor ac ymgyrchydd dros hawliau sifil o New Jersey. Teimlai gysylltiad â phobl Cymru byth ers iddo glywed côr o lowyr di-waith o Gymru’n canu mewn stryd yn Llundain, lle’r oedd yn perfformio mewn sioe yn y West End. Roedd ganddo hefyd ewythr yng Nghaerdydd. Perfformiodd yng Nghymru yn y 1930au a daeth yr AS o Lynebwy, Aneurin Bevan, yn gyfaill iddo. Rhoddodd arian i’r gronfa gymorth ar ôl trychineb pwll Gresffordd, ger Wrecsam, ym 1934.

Yn ystod y Rhyfel Oer yn y 1950au, fe wnaeth yr awdurdodau yn America wahardd Paul rhag teithio dramor. Anogodd Aneurin Bevan ef i berfformio cyngherddau trwy’r cebl trawsiwerydd yn ystod y cyfnod hwnnw. Canodd dros y ffôn i filoedd o bobl yn eisteddfod y glowyr ym 1957.

Codwyd y gwaharddiad teithio yn ystod y flwyddyn ganlynol ac roedd Paul a’i wraig Eslanda (newyddiadurwraig, actores ac ymgyrchydd nodedig) yn gallu ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy ym 1958 yn y cnawd.

Gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Map

button-tour-ebbw-vale-town-trail previous page in tournext page in tour