Hen Gapel Bethcar, Glynebwy
Sefydlwyd y capel hwn oddeutu 1808, ym mlynyddoedd cynnar Glynebwy fel tref gwaith haearn. Helaethwyd yr adeilad ddwywaith wrth i’r boblogaeth dyfu. Ym 1959 daeth yn llyfrgell y dref, a reolir bellach gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.
Roedd Capel Wesleaidd Cymraeg Bethcar a Theras Bethcar, i’r de, wedi eu hamgylchynu gan ddiwydiant am y rhan fwyaf o’r 19eg ganrif. Byddai ceffylau’n tynnu wagenni ar hyd tramffyrdd o flaen yr adeiladau a’r tu ôl iddynt.
Roedd y capel hwn yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau cerddorol. Yn y 1870au arferid cynnal cyngherddau i dalu’r ddyled am helaethu’r capel yn y 1860au. Fe wnaeth cyngerdd yma ym 1879 godi arian ar gyfer Benjamin Evans, a oedd yn ddall.
Bu’r capel yn cynnal eisteddfod flynyddol o 1889. Yn eisteddfod 1891, enillodd Côr Brynmawr dan arweiniad Mr Burrows y brif wobr: medal aur ac £8 (dros £850 heddiw). Ym 1891 daeth corau o ardaloedd amrywiol i Fethcar ar gyfer cymanfa ganu, a oedd wedi’i bwriadu i wella ansawdd canu cynulleidfaol mewn capeli.
Gyda dirywiad y Gymraeg yn yr 20fed ganrif, fe edwinodd cynulleidfa Bethcar nes ei bod yn cynnwys llai na deg o bobl a bu’n addoli mewn ystafell gefn. Prynodd Cyngor Sir Fynwy’r adeilad ym 1958 a’i droi’n llyfrgell.
Erbyn y 1890au roedd nifer o’r tramffyrdd cyfagos wedi mynd ac roedd adeiladau newydd ar hyd ochrau dwyreiniol Stryd Bethcar a Stryd y Farchnad. Roedd yr ardal yn dod i’r amlwg fel y canol tref yr ydym yn ei adnabod heddiw. Tan y 1960au roedd y ddwy stryd hyn yn cael eu gwahanu gan groesfan wastad, lle’r oedd rheilffordd cludo mwynau’n parhau i’r de o orsaf lefel-uchel Glynebwy.
Mae’r ffotograff o’r awyr sy’n dyddio o 1948, a ddarparwyd trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos y capel (yn agos at y gornel waelod ar y chwith), y groesfan wastad a’r orsaf.
Ym 1899 agorwyd adeilad llys ar bwys yr orsaf heddlu yn Stryd Bethcar. Cyn hynny bu ynadon yn defnyddio Sefydliad Glynebwy. Y diffynnydd cyntaf yn y llys newydd oedd Gwyddel oedrannus o’r enw Daniel O’Connell, a gyfaddefodd iddo gyflawni trosedd priffyrdd. Gofynnodd yr ynadon a oedd yn perthyn i’r arweinydd cenedlaetholgar Gwyddelig o’r un enw. Er nad oedd, fe wnaethant ei ryddhau oherwydd ei enw neilltuol ac am eu bod yn dymuno nodi agoriad y llys â gweithred o drugaredd! Wedyn fe gilion nhw i gael cinio yn ystafell yr ynadon gyda'r heddlu a swyddogion eraill.
Gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cod post: NP23 6HS Map
Gwybodaeth llyfrgell – Gwefan Ymddiriedolaeth hamdden Aneurin
![]() |